Ymgynghoriad
Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 23 Mawrth 2015 a Dydd Gwener, 24 Ebrill 2015
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CMDT 01 - Sefydliad Siartredig Trethiant (Saesneg yn Unig) PDF 126 KB Gweld fel HTML (3) 34 KB
- CMDT 02 - Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 1 MB
- CMDT 03 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 89 KB Gweld fel HTML (5) 44 KB
- CMDT 04 - Revenues Scotland (Saesneg yn Unig) PDF 1 MB
- CMDT 05 - Gerald Holtham (Saesneg yn Unig) PDF 30 KB Gweld fel HTML (7) 5 KB
- CMDT 06 - Cymdeithas y Cyfreithwyr (Saesneg yn Unig) PDF 280 KB Gweld fel HTML (8) 1 KB
- CMDT 07 - Grŵp Diwygio Trethi Incwm Isel (Saesneg yn Unig) PDF 812 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor
Cyllid yn cynnal ymchwiliad
i gasglu trethi datganoledig. O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd angen i Gymru gael
system ar gyfer casglu a rheoli trethi newydd a gyflwynir yng Nghymru. Mae
Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ynghylch Papur Gwyn ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru ac mae’n bwriadu cyflwyno Bil.
Mae ymchwiliad y Pwyllgor i gasglu trethi datganoledig yn
canolbwyntio ar:
- y
sefydliadau mwyaf effeithlon i gasglu trethi datganoledig yn y tymor
byr a’r tymor hir; a'r
- cydbwysedd rhwng yr angen am sefydlogrwydd a chyfleoedd
i ddatblygu trethi sydd wedi'u teilwra ar gyfer
Cymru yn y dyfodol.
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu’ch sylwadau ar y canlynol:
- Yn eich barn chi, pwy ddylai fod yn gyfrifol am
gasglu trethi yng Nghymru?
- A ddylai trethi yng Nghymru gael eu casglu gan un
sefydliad neu a ddylai mwy nag un sefydliad gasglu'r trethi gwahanol?
- Sut y gellir defnyddio profiad ac arbenigedd
sefydliadau sydd eisoes yn casglu rhai trethi yng Nghymru, fel awdurdodau
lleol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi?
- Sut y gellir diogelu'r broses o gasglu trethi yng
Nghymru ar gyfer y dyfodol? A ddylid cynllunio atebion i broblemau mewn
modd y gellir eu haddasu os bydd trethi’n newid yn y dyfodol?
- Sut ydych chi’n credu y gellir casglu trethi yng
Nghymru mewn ffordd sy'n sicrhau bod safonau gwasanaeth yn parhau'n gyson?
- A oes gennych unrhyw sylwadau
eraill mewn perthynas â'r ymchwiliad hwn nad yw’r uchod yn ymdrin â nhw?
Gwahoddiad
i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r
Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu yn Saesneg gan unigolion a sefydliadau,
a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen
A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion
uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu
tystiolaeth i bwyllgorau.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael. Gofalwch eich bod yn ystyried y
manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565