Ymgynghoriad

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i Ystyried Pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr Ombwdsmon"). Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae'r Ombwdsmon presennol wedi tynnu sylw at bum prif faes o newidiadau i Ddeddf 2005 y mae'n credu fyddai'n cryfhau’r rôl.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y pum prif faes hyn:

  • pwerau ar ei liwt ei hun - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb orfod derbyn cwyn am fater yn gyntaf;
  • cwynion llafar - ar hyn o bryd, dim ond cwynion ysgrifenedig y gall yr Ombwdsmon eu derbyn, byddai hyn yn caniatáu i'r Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar;
  • ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i fod â rôl o ran rhoi cyngor ar ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus;
  • awdurdodaeth yr Ombwdsmon (i gynnwys gwasanaethau iechyd preifat) - byddai hyn yn ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon gan ei alluogi / galluogi i ymchwilio pan fo claf wedi derbyn gofal iechyd preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â gofal iechyd cyhoeddus; a
  • chysylltiadau â'r llysoedd - cael gwared ar y bar statudol a fyddai'n caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried achos lle mae posibilrwydd y bydd yn cael ei adolygu gan lys, tribiwnlys neu broses arall (byddai hyn yn rhoi cyfle i achwynwyr benderfynu pa lwybr sydd fwyaf priodol iddyn nhw).

 

Yn ogystal, caiff y Pwyllgor ystyried y canlynol hefyd;

  • awdurdodaeth – dros amser, mae newidiadau i'r setliad datganoli wedi arwain at gynnwys meysydd newydd yn yr awdurdodaeth, a ddylid ystyried cynnwys cyrff eraill yn awdurdodaeth yr Ombwdsmon;
  • argymhellion a chanfyddiadau - a ddylai argymhellion yr Ombwdsmon i gyrff cyhoeddus fod yn orfodol. Byddai hyn yn golygu na chaiff cyrff benderfynu gwrthod y canfyddiadau;
  • amddiffyn y teitl – o ystyried y ffaith y bu gormodedd o gynlluniau yn galw eu hunain yn ombwdsmyn, yn aml heb fodloni meini prawf allweddol y cysyniad, fel annibynniaeth ar y rhai mewn awdurdodaeth a bod yn rhydd i'r achwynydd, a ddylai unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio'r teitl ombwdsmon gael cymeradwyaeth yr Ombwdsmon;
  • cod ymddygiad cwynion – byddai'n well gan yr Ombwdsmon ganolbwyntio ar yr elfen o'i waith sy'n ymdrin â defnyddwyr gwasanaethau a darparu gwasanaethau, yn hytrach na phenderfyniadau awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned. Er bod gweithdrefnau datrysiad lleol yn bodoli a'u bod wedi cael eu mabwysiadu gan 22 o awdurdodau lleol, ceir amrywiad wrth ymarfer; ac
  • unrhyw agweddau ar ddiwygiadau arfaethedig i’r sector cyhoeddus neu ddiwygiadau i'r sector cyhoeddus yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar rôl yr Ombwdsmon ac unrhyw agweddau eraill ar Ddeddf 2005.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i'w weld am www.cynulliad.cymru/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm.

Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael ar gais drwy gysylltu â'r Clerc.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565