Ymgynghoriad

Bil Cymwysterau Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn galw am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru.  I gynorthwyo ei waith, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y pwnc hwn.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar y Bil. Yn benodol, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir ar y Ffurflen Ymateb, y dylid ei defnyddio i gyflwyno eich tystiolaeth.

 

Mae’r erthygl a ganlyn yn rhoi canllaw syml i ddarpariaethau a chefndir y Bil.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565