Ymgynghoriad

Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: gwaith dilynol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal gwaith dilynol ar yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru y cyflwynwyd adroddiad arno ym mis Chwefror 2013.

 

Er mwyn llywio ei waith, cysylltodd y Pwyllgor â’r rhai a gyflwynodd dystiolaeth i’r ymchwiliad gwreiddiol i ofyn am eu barn yn ysgrifenedig  am:

  • y cynnydd a wnaed i weithredu ei argymhellion; a
  • ble fydd angen gwneud rhagor o waith a pha gamau efallai y bydd angen eu cymryd i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565