Ymgynghoriad

Ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae MaePwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig.

 

Diben yr ymchwiliad hwn yw ystyried yr effeithiau posibl ar Gymru yn wyneb cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig a'r cynigion a wnaed yn y Cynllun Gweithredu ar ddyfodol cynhyrchu organig yn yr UE.

 

Cylch gorchwyl

 

Bydd yr ymchwiliad yn:

 

  • Ystyried effeithiau posibl y cynigion ar y sector organig yng Nghymru;
  • Ystyried yr argymhellion ar gyfer newidiadau i'r cynigion cyfreithiol sydd wedi'u cyhoeddi; a
  • Bod yn fforwm lle gall rhanddeiliaid yng Nghymru gymryd rhan yn y drafodaeth ar ddyfodol cynhyrchu organig yn yr UE.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau.

Byddwn yn cynnal sesiwn tystiolaeth lafar ar 13 Tachwedd 2014, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth. Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i PwyllgorAC@cymru.gov.uk.

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor,

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

Bae Caerdydd,

CF99 1NA.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565