Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Ailgylchu yng Nghymru .

Diben yr ymchwiliad hwn yw i edrych yn fanwl ar arferion a threfniadau ailgylchu gwastraff tai presennol awdurdodau lleol drwy Gymru. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried holl deunyddiau gwastraff, gan gynnwys gwastraff bwyd a gwastraff o’r ardd.

 

Cylch gorchwyl.

 

  • Ymchwilio i’r rhesymau dros yr amrywiadau mewn arferion ailgylchu gwastraff tai awdurdodau lleol yng Nghymru, ac effeithiau’r amrywiadau hyn.
  • I ba raddau y mae arferion ailgylchu awdurdodau lleol yn gydnaws â phatrwm casgliadau Cynllun Sector Gwastraff Trefol Llywodraeth Cymru, ac edrych beth yw’r rhwystrau a’r hwyluswyr i ymlynu. 
  • Asesu a yw gwybodaeth ac arweiniad ar gael i ddeiliaid tai ynglŷn â pham a sut y dylent fod yn ailgylchu, ac edrych ar beth yw’r rhwystrau posibl, a beth yw’r hwyluswyr i wella cyfraddau ailgylchu.
  • Ymchwilio i ymateb awdurdodau lleol i’r Trywydd Rheoliadau Gwastraff a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac effeithiau a goblygiadau posibl hwn ar arferion ailgylchu ledled Cymru.
  • Cael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng arferion casglu deunydd ailgylchu a chyfraddau ailgylchu.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.