Ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar drefniadau pensiwn Aelodaur Cynulliad yn y dyfodol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 24 Ebrill 2014 a Dydd Mercher, 21 Mai 2014
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Rhwng nawr a chyhoeddi’r Penderfyniad terfynol ym mis Mai
2015, bydd Y Bwrdd Taliadau yn
ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad ar bob agwedd ar eu taliadau. Dyma’r rhan gyntaf
o ymgynghoriad dwy ran penodol ar bensiynau, ond yng nghyd-destun taliadau
ehangach sy’n ceisio eich barn i’n cynorthwyo i ddylunio cynllun pensiwn modern
sy’n unol ag arfer gorau:
- Cam 1: Ymgynghoriad lefel uchel sy’n cynnwys cwestiynau am rai cynigion
ac sy’n rhoi amlinelliad bras o’r math o gynllun a allai gael ei gyflwyno;
a
- Cam 2: Yn dilyn dadansoddiad o ymatebion i ymgynghoriad cam 1, byddwn
yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus manwl ar gynllun pensiwn arfaethedig.
Mae’r papur ymgynghori hwn, sy’n cynnwys crynodeb o’n
cynigion, yn eich gwahodd i gyflwyno eich barn er mwyn llywio ein trafodaethau.
Bydd y dystiolaeth a gesglir o’r ymgynghoriad hyn yn cael ei hystyried yn
ofalus iawn gan y Bwrdd. Felly, rydym yn annog Aelodau’r Cynulliad, aelodau o
Gynllun Pensiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a phob rhanddeiliad arall, i
ymgysylltu â ni. Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Mercher 21 Mai 2014. Dylid
anfon ymatebion at Glerc y Bwrdd Taliadau, ac mae ei fanylion cyswllt i’w cael
y tu mewn i glawr y ddogfen hon.
Datgelu
Gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth
a ddarperir i Bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos
mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y
Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y
bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a
ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data
personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich
penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol
dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi
gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Dogfennau ategol