Ymgynghoriad

Ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru .   

Diben yr ymchwiliad fydd i  ystyried sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn rheoli'r ystâd goedwig gyhoeddus ac yn darparu gwasanaethau coedwigaeth i'r sector yng Nghymru ers creu'r corff ym mis Ebrill 2013.

 

Cylch gorchwyl

Asesu rheolaeth yr ystad goedwigaeth gyhoeddus yng Nghymru a'r ddarpariaeth o wasanaethau coedwigaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig:

  • Gweithrediadau a ffocws masnachol CNC;
  • Darparu cyngor busnes a chymorth i'r sector coedwigaeth yng Nghymru;
  • Rheoli achosion o glefydau ar yr ystad goedwigaeth gyhoeddus; a’r
  • Cynnydd a wnaed gan CNC i gyflawni argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr haf 2014, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.  

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus.  Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth.  Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i PwyllgorAC@cymru.gov.uk.  Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 16 Mai 2014.  Yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hwy na phedair tudalen A4, a dylid rhifo'r paragraffau a chyflwyno'r dystiolaeth mewn fformat Word. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.  

 

Datgelu Gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.