Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ddeddfu yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymchwiliad gan Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw ystyried sut y mae deddfau yn cael eu gwneud yn y Pedwerydd Cynulliad, yn benodol drwy:

  • ystyried yr egwyddorion a ddefnyddir wrth ddrafftio Biliau Aelodau, a gwelliannau, ar gyfer y Cynulliad a nodi’r ffyrdd y maent yn cydymffurffio â’r arfer gorau yn y Deyrnas Unedig ac awdurdodaethau cymharol, neu’r ffyrdd nad ydynt yn gwneud hynny;
  • ystyried effaith cymhwysedd deddfwriaethol ar ddrafftio Biliau (gan gynnwys effaith bosibl ffyrdd amgen o ddiffinio cymhwysedd deddfwriaethol);
  • adolygu pwrpas ac effaith Memoranda Esboniadol, sy’n cyd-fynd â Biliau, a mathau eraill o ddeunydd esboniadol neu gefndirol;
  • adolygu effeithiolrwydd y cyfleoedd a ddarperir gan y Rheolau Sefydlog i graffu ar Filiau;
  • ystyried yr amser a neilltuir ar gyfer craffu ar Filiau, a materion eraill sy’n ymwneud â gweithdrefn Biliau;
  • adolygu cwmpas ac effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer Biliau sy’n destun llwybr carlam o fewn gweithdrefnau presennol y Cynulliad;
  • ystyried capasiti Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu;
  • ystyried materion sy’n ymwneud â’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei rhaglen ddeddfwriaethol;  
  • ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r broses ddeddfu;
  • gwneud argymhellion.

 

Mae’r ymgynghoriad bellach ar agor hyd nes 30 Mehefin 2014. Mae’r llythyr ymgynghori yn cynnig cwestiynau cyffredinol a rhai manylach y byddwch, o bosibl, am eu hystyried wrth ymateb. 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i ymateb yn Atodiad 2 i’r llythyr ymgynghori.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

P Gareth Williams
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Ffôn: 029 2089 8008