Ymgynghoriad

Gwasanaethau orthodontig yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad byr i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.

Y cylch gorchwyl oedd ymchwilio i’r gofal orthodontig priodol a ddarperir yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Yr hawl i driniaeth orthodontig briodol, sy’n cynnwys gwasanaethau gofal orthodontig sylfaenol ac eilaidd ar gyfer cleifion, ac a oes amrywiad rhanbarthol yn bod o ran hawl i wasanaethau orthodontig drwy Gymru.
  • Effeithiolrwydd y cyswllt gweithiol rhwng practisau orthodontig a byrddau iechyd lleol o ran rheoli’r ddarpariaeth orthodontig yn lleol, a rôl y Rhwydweithiau Clinigol a Reolir wrth gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau orthodontig mwy effeithiol yng Nghymru (e.e cynllunio a rheoli effeithiol, gwelliant o ran pa mor briodol yw atgyfeiriadau a rheoli perfformiad, trefniadau’r gweithlu).
  • A yw’r arian a ddarperir ar gyfer y gwasanaethau orthodontig ar hyn o bryd yn gynaliadwy o gofio’r wasgfa ar wariant y mae’r GIG yn ei hwynebu, gan gynnwys, a yw’r ddarpariaeth gofal othodontig bresennol yn digonol, yn fforddiadwy ac yn darparu gwerth am arian ai peidio.
  • A yw gwasanaethau orthodontig yn cael blaenoriaeth ddigonol yng nghynllun iechyd y geg cenedlaethol ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys trefniadau ar gyfer monitro safonau’r ddarpariaeth a chanlyniadau’r gofal yn y GIG ac yn y sector annibynnol.
  • Effaith y contract deintyddol ar y gofal orthodontig a ddarperir.  

 

Mae’r ymgynghoriad yma wedi cau.

Dogfennau ategol