Ymgynghoriad
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2013 a Dydd Gwener, 31 Ionawr 2014
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad
i’r cyfleoedd ariannu a fyddai ar gael gan yr UE i sefydliadau yng Nghymru o
2014-2020.
Cylch gorchwyl
- Deall y prif gyfleoedd a fydd ar gael i
sefydliadau yng Nghymru yn sgîl rhaglenni ariannu’r UE ar gyfer 2014-2020
a ddaw o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes.
- Ystyried i ba raddau y mae Cymru yn defnyddio
dull gweithredu effeithiol ar gyfer gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar
gael yn sgîl arian o’r fath, gan gynnwys Strategaeth UE Llywodraeth Cymru,
ac i ba raddau y caiff arian yr UE ei gynllunio yng nghylch cyllidebol
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru.
- Nodi unigolion a sefydliadau sydd wedi cael
llwyddiant blaenorol wrth gymryd rhan ym mhrosiectau / rhaglenni /
mentrau’r UE, ac ymchwilio i sut y gellid defnyddio eu profiadau a’u
galluoedd yn effeithiol yn 2014-20.
Ffynonellau Cyllid yr UE a gwmpesir:
- Cyfleuster Cysylltu Ewrop: yn benodol, y
Rhwydweithiau Traws-Ewropeaidd ar gyfer Trafnidiaeth (TEN-T) a’r
posibilrwydd i rannau o Gymru a nodwyd ar ‘rwydwaith craidd’ y TEN-T gael
mynediad ato.
- Erasmus+: yn benodol, yr arian ar gyfer
symudedd/camau arloesol ym maes addysg, hyfforddiant ac ieuenctid.
- Rhaglenni Cydweithio Rhyngranbarthol
(INTERREG):
- Rhaglen Cydweithio Trawsffiniol Iwerddon-Cymru
- Rhaglen Cydweithio Trawswladol Ardal yr Iwerydd
- Rhaglen Cydweithio Trawswladol Gogledd orllewin
Ewrop
- Rhaglen INTERREG V
- Ewrop Greadigol (ar gyfer y cyfryngau / y
diwydiannau creadigol / diwylliant)
- Rhaglenni perthnasol eraill fel y Rhaglen
Cystadleugarwch Mentrau Bach a Chanolig (COSME) a’r Rhaglen ar gyfer
Cyflogaeth ac Arloesedd Cymdeithasol.
Noder nad aeth yr
ymchwiliad hwn i'r afael â phrif Gronfeydd Strwythurol Rhaglenni'r UE a reolwyd
yng Nghymru rhwng 2014 a 2020 na Horizon 2020, gan i’r Pwyllgor gynnal
ymchwiliadau iddynt yn y ddwy flynedd flaenorol.
Dogfennau ategol
- Adroddiad - Gorffennaf 2014 PDF 779 KB
- EUO 1 - Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 134 KB Gweld fel HTML (2) 15 KB
- EUO 2 - The European Centre for Training and Regional Co-operation (ETARC) (Saesneg yn unig) PDF 38 KB Gweld fel HTML (3) 17 KB
- EUO 3 - Cyflwyniad cyfrinachol ddim i’w gyhoeddi PDF 94 KB Gweld fel HTML (4) 2 KB
- EUO 4 - Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 227 KB Gweld fel HTML (5) 26 KB
- EUO 5 - Prifysgol Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 481 KB Gweld fel HTML (6) 29 KB
- EUO 6 - Theatr Cynefin (Saesneg yn unig) PDF 142 KB Gweld fel HTML (7) 14 KB
- EUO 7 - Colegau Cymru PDF 1 MB
- EUO 8 - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru PDF 259 KB Gweld fel HTML (9) 48 KB
- EUO 9 - Connect Cymru (Saesneg yn unig) PDF 170 KB Gweld fel HTML (10) 13 KB
- EUO 10 - CITB Cymru Wales PDF 125 KB Gweld fel HTML (11) 10 KB
- EUO 11 - European Training Services (Saesneg yn unig) PDF 84 KB Gweld fel HTML (12) 9 KB
- EUO 12 - Addysg Uwch Cymru Brwsel ac Addysg Uwch Cymru (Saesneg yn unig) PDF 422 KB Gweld fel HTML (13) 57 KB
- EUO 13 - British Council and Ecorys UK (Saesneg yn unig) PDF 219 KB Gweld fel HTML (14) 26 KB
- EUO 14 - Cyngor Sir Ynys Môn PDF 1 MB
- EUO 15 - Amgueddfa Cymru (Saesneg yn unig) PDF 230 KB Gweld fel HTML (16) 13 KB
- EUO 16 - Cyngor Gwynedd PDF 810 KB
- EUO 17 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 192 KB Gweld fel HTML (18) 37 KB
- EUO 18 - Prof Russell Deacon (Saesneg yn unig) PDF 33 KB Gweld fel HTML (19) 11 KB
- EUO 19 - Network Rail (Saesneg yn unig) PDF 299 KB Gweld fel HTML (20) 43 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Siân Phipps - Committees
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA