Digwyddiad

Lansio CARIAD, Y Ganolfan Ymchwil Gymhwysol i Gelf a Dylunio Cynhwysol (Canolfan Ymchwil)

Dyddiad: Dydd Iau 19 Medi 2013

Amser: 10.00 - 16.45

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: ‘Grŵp bach amlddisgyblaethol o ymchwilwyr, darlithwyr a myfyrwyr ymchwil yw tîm Cariad. Eu prif amcan yw mynd i’r afael, drwy eu gwaith ymchwil cymhwysol, â rhai o’r heriau cymhleth sy’n wynebu cymunedau amrywiol ac unigolion sy’n agored i niwed mewn cymdeithas. Ymhlith canlyniadau gwaith ymchwil CARIAD mae datblygu: cynlluniau ar gyfer cynnyrch, digwyddiadau, dulliau rhyngweithio, cyhoeddiadau, fideos a gwasanaethau. ‘Rydym yn cynnal diwrnod lansio swyddogol yn yr Oriel. Bydd CARIAD yn gwahodd siaradwyr a rhanddeiliaid allweddol i ddiwrnod o weithdai rhyngweithiol a seminarau ac mae’n falch o groesawu rhai o Aelodau’r Cynulliad i lansio’r ganolfan yn swyddogol (i’w gadarnhau)

Hyperddolen: Eluned Parrott AC

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr