Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Ein harwain ganddi Hi (LeadHerShip)
Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Mawrth 2020
Amser: 11.00 - 16.30
Lleoliad: Ystafell Gynadledda B (Tŷ Hywel), Siambr Hywel, y Senedd
Disgrifiad: Mae LeadHerShip yn gyfle am ddiwrnod o gysgodi mewn swydd i fenywod ifanc gael gweld sut brofiad yw bod yn Aelod Cynulliad. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y dydd, gan gynnwys cysgodi un Aelod wrth ei gwaith, panel amser cinio, Sesiwn Holi ac Ateb, cwestiynau i’r Prif Weinidog, taith o amgylch y Senedd a dadl ffug. Nod y digwyddiad yw annog rhagor o fenywod ifanc i weld eu hunain fel arweinwyr posibl ac fel Aelodau Cynulliad yn y dyfodol o bosibl, i helpu i sicrhau bod ein sefydliad yn cynrychioli ein cymunedau.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr