Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Siarad am “Iechyd Meddwl”

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Mawrth 2020

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Digwyddiad Celf ac Iechyd 'Pedwar o bob Pedwar' sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Oherwydd ein bod i gyd yn ymwybodol o iechyd meddwl a bod rhagor o ymdrech i bobl siarad am y peth, mae llawer o bobl yn gofyn "Sut mae gwneud hynny?" Rydym yn osgoi siarad am iechyd meddwl am lawer o resymau, gan gynnwys, rhag ofn tramgwyddo rhywun neu ddefnyddio terminoleg anghywir. Mae rhai pobl nad ydynt yn gwybod sut i gefnogi'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl ac efallai bod rhai â chyflyrau iechyd meddwl yn teimlo cywilydd, neu efallai ddim yn gwybod sut i gyfleu eu teimladau. Gan gofio hynny, rydym yn cynnal digwyddiad ar sut mae siarad am 'iechyd meddwl'. Bydd yn cynnwys: gweithdai, sgyrsiau, perfformiadau, cyflwyniadau, siaradwyr allweddol a stondinau gwybodaeth. Bydd yn ddigwyddiad rhyngweithiol, meddwl agored a chreadigol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr