Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Bywyd ar y Lefelau
Dyddiad: Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 i ddydd Iau 26 Mawrth 2020
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Disgrifiad: Ymateb ffotograffig yw ‘Bywyd ar y Lefelau’ i gyfres o gyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd ar draws Gwastadeddau Gwent gan Marsha O’Mahony a’i thîm o wirfoddolwyr. O fewn geiriau’r rhai sy’n cael eu cyfweld, a’r delweddau hyn, eu gobaith yw cadw gafael ar leisiau ac atgofion sydd mewn perygl o ddiflannu. Bydd etifeddiaeth y gwaith hwn yn helpu i warchod a dehongli hanes byw y gornel hynod ddiddorol hon o Gymru, a anwybyddir yn aml, gan roi llais a lle i’r gymuned yn hanes y tirlun hwn. Cynhaliwyd yr hanes llafar hwn ar ran Partneriaeth Tirlun y Lefelau Byw.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr