Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Everywoman

Dyddiad: Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 i ddydd Mercher 25 Mawrth 2020

Lleoliad: Y Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n falch i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020 gydag ‘Everywoman’, sef arddangosfa gan grŵp ffotograffiaeth Phrame. Mae'r arddangosfa'n dathlu gwaith menywod na fyddent fel arall, o bosibl, yn cael sylw. Nod 'Everywoman' yw tynnu sylw at waith 'trysorau cudd' - y menywod hynny sydd, o bosibl, yn llawer llai adnabyddus na ffigurau cyhoeddus ond sydd, serch hynny, yn gwneud gwaith o werth go iawn sy'n cael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau. Mae’r holl arddangoswyr yn aelodau o grŵp ffotograffiaeth Phrame ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo a chefnogi gwaith ffotograffwyr benywaidd sy'n dod i'r amlwg yn ardal de Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr