Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Derbyniad Diwrnod Clefydau Prin

Dyddiad: Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae’r Diwrnod Clefydau Prin yn ddigwyddiad blynyddol sy’n rhoi cyfle i’r gymuned clefydau prin ym mhob cwr o’r byd godi ymwybyddiaeth o glefydau prin ac amlygu’r materion sy’n effeithio ar gleifion a theuluoedd fel blaenoriaeth iechyd cyhoeddus i lywodraeth. Ers 2009, mae Rare Disease UK (ymgyrch sy’n cael ei harwain gan yr elusen Genetic Alliance UK), y gynghrair genedlaethol ar gyfer pobl sydd â chlefydau prin a phawb sy’n eu cefnogi, wedi cydgysylltu digwyddiadau seneddol sy’n codi ymwybyddiaeth ledled y DU. Cynhelir y 14eg Diwrnod Clefydau Prin rhyngwladol ar 28 Chwefror 2020. Er mwyn nodi’r diwrnod a chodi proffil afiechydon prin ymhlith Aelodau’r Cynulliad a’r llywodraeth, bydd Rare Disease UK yn cynnal derbyniad yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr