Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Arloesedd mewn Eiriolaeth Plant yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Chwefror 2020

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae bron yn 3 blynedd ers i Carl Sargeant, cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, gyhoeddi’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol i Blant a Phobl Ifanc a’r Cynnig Eiriolaeth Rhagweithiol ym mis Gorffennaf 2017. Mae TGP Cymru yn cynnal digwyddiad i rannu hynt y fenter unigryw hon, sy’n ceisio sicrhau y caiff hawliau plant sy’n derbyn gofal eu diogelu o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr