Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Arddangosfa Arloeswyr Comisiwn Bevan - Arddangosfa Patrymau Enghreifftiol Bevan

Dyddiad: Dydd Iau 16 Ionawr 2020

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Bydd yr Arddangosfa Arloeswyr yn rhoi cyfle i batrymau Enghreifftiol Bevan gyflwyno prosiectau iechyd a gofal arloesol yn y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy'n treialu ac yn profi syniadau arloesol ar y rheng flaen o fewn y GIG yn dangos eu gwaith mewn digwyddiad arddangos a noddir gan Dawn Bowden AC. Mae Comisiwn Bevan yn cefnogi o leiaf 40 o batrymau Enghreifftiol Bevan dros 12 mis i droi egwyddorion gofal iechyd darbodus yn gamau gweithredu mewn ysbytai, meddygfeydd, cartrefi gofal a chymunedau ledled Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr