Digwyddiad

DIGWYDDIAD: MockCOP - Dadl Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig

Dyddiad: Dydd Iau 21 Tachwedd 2019

Amser: 09.00 - 17.00

Lleoliad: Siambr Hywel, Ty Hywel

Disgrifiad: Nod y gynhadledd, a gynhelir yn flynyddol gan Maint Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yw i’r cynrychiolwyr gytuno ar benderfyniad rhyngwladol ar fater newid yn yr hinsawdd (yn debyg i sgyrsiau COP24 Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhelir yng Ngwlad Pwyl ar yr un pryd), wrth chwarae rhan eu gwlad mor ddilys â phosibl. Drwy’r gynhadledd hon rydym yn annog pobl ifanc i chwarae mwy o ran wrth newid yn yr hinsawdd a materion gwleidyddol ac ystyried cyfrifoldeb Cymru, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc drafod mater newid yn yr hinsawdd o safbwynt arweinwyr y byd. Roedd y pynciau a drafodwyd yn amrywio o ynni glân, amddiffyn fforestydd glaw, rheoli trychinebau a sut i ariannu’r rhain

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr