Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd MockCOP

Dyddiad: Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019

Amser: 14.30 - 17.00

Lleoliad: Siambr Hywel, Ty Hywel

Disgrifiad: Nod y digwyddiad hwn yw ysbrydoli pobl ifanc i gymryd camau cadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd drwy gynnal sesiynau “gwneuthurwyr newid” gyda nhw cyn prif ddigwyddiad MockCOP ddydd Iau a thrwy barhau i weithio gyda nhw ar ôl y digwyddiad i’w datblygu’n “Hyrwyddwyr Hinsawdd”. Bydd y sesiynau cyntaf hyn o’r ffug ddigwyddiad cynhadledd hinsawdd, bydd Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd MockCOP yn gweld ystod o weithgareddau wedi’u cynllunio'n arbennig i annog ein cyfranogwyr ifanc i feddwl am sut y gallant ddefnyddio eu llais i ysbrydoli newid a gweithredu ar yr hinsawdd yn gadarnhaol. Y diwrnod canlynol bydd y bobl ifanc yn gweithredu fel cynrychiolwyr Gwledydd yn nadl MockCOP yn null y Cenhedloedd Unedig. Yr amcan cyffredinol yw gweithio’n uniongyrchol gyda’r bobl ifanc i ddylunio rhaglen Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd unigryw a grymusol sy’n ein galluogi i barhau i ymgysylltu a darparu llwyfan i arweinwyr hinsawdd y dyfodol. Bydd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn datblygu eu dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd, materion byd-eang a datblygu cynaliadwy, gan ddatblygu eu sgiliau dadlau a siarad cyhoeddus a’u hyder ac empathi dysgu (drwy sefyll yn esgidiau gwledydd eraill ac ystyried sawl safbwynt). Bydd y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn MockCOP wedi cael eu dewis (o'u ceisiadau) i ddod i’r digwyddiad hwn, ar ôl bod yn MockCOP rhanbarthol yng Nghymru eleni.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr