Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Gwobrau Paw Prints yr RSPCA

Dyddiad: Dydd Llun 23 Medi 2019

Amser: 14.00 - 16.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Er 2008, gwobrau PawPrints yr RSPCA (cynllun Olion Traed Lles Anifeiliaid Cymunedol - CAWF gynt) fu'r unig gynllun dyfarnu ledled Cymru a Lloegr sy'n cydnabod arfer da gan awdurdodau lleol, darparwyr tai a chynllunwyr argyfwng o ran lles anifeiliaid. Mae'r cynllun yn dathlu arfer da drwy wobrwyo'r sefydliadau hynny sy'n rhagori ar ofynion gwasanaeth sylfaenol a statudol gyda'r nod o gyflawni safonau lles anifeiliaid uwch. Ardystiad: Caiff y cynllun gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig. Categorïau Gwobrwyo: Mae'r gwobrau yn cynnwys pum maes gwaith - gwasanaethau cŵn strae, tai, cynllunio argyfwng, cŵn cenel a thrwyddedu gweithgareddau anifeiliaid. Mae tair lefel i bob Ôl Troed, sef lefel efydd, lefel arian a lefel aur ac mae meini prawf cynyddol heriol i bob un ohonynt. Mae’r wobr Arloeswr RSPCA Cymru yn cydnabod cyflawniad eithriadol wrth fabwysiadu dull arloesol o wella lles anifeiliaid.

Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig, ond bydd y Senedd a'r Pierhead ar agor i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr