Digwyddiad

DIGWYDDIAD: GovCamp Cymru 2019

Dyddiad: Dydd Gwener 20 Medi 2019

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae GovCamp Cymru, y digwyddiad undydd nad yw’n gynhadledd strwythuredig ac sy’n trafod llywodraethu a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl ar gyfer 2019. Caiff y digwyddiad ei gynnal yn y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Gwener 20 Medi 2019. Beth yw GovCamp a pham ddylech chi ddod iddo? Digwyddiad yw GovCamp lle mae’r bobl sy’n bresennol yn arwain ar y rhaglen – ceir thema, neu gwestiwn cyffredinol, ond nid oes agenda fanwl hyd nes dechrau’r diwrnod, pan fydd pobl yn awgrymu’r hyn yr hoffent ei drafod. Yn GovCamp Cymru, CHI sy’n penderfynu ar yr agenda, felly os ydych chi’n credu bod materion ar goll ar yr agendau ffurfiol arferol, os ydych yn credu bod y trafodaethau arferol ar bolisi yn anwybyddu agweddau pwysig ar fywyd dinesig, neu os ydych yn credu bod yn rhaid i rai materion ddod i sylw’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau, yna dyma eich cyfle CHI. Dewch i ddweud eich dweud yn y drafodaeth.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr