Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol yng Nghymru: Sut y gall arweinwyr ifanc newid y drafodaeth ar yr hinsawdd?

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Medi 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Dyma ddigwyddiad i lansio Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol, sy’n anelu at gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru a myfyrwyr rhyngwladol arwain ar y gwaith o ddatblygu datrysiadau i faterion gwleidyddol a chymdeithasol. Bydd y derbyniad yn gyfle i bum myfyriwr ifanc rannu eu barn am sut y gellir cynnwys pobl ifanc yn yr ymateb i newid yn yr hinsawdd. Wedi’i gefnogi, gobeithio, gan artistiaid o Theatr Genedlaethol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r digwyddiad hwn yn cyd-fynd yn berffaith â rhwymedigaethau Llywodraeth Cymru ei hun o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn ddiweddar.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr