Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Ail-lansio Gwobr Cyflawniad Pobl Ifanc

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Medi 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Rydym yn lansio ein Gwobrau Cyflawniad Pobl Ifanc newydd ym mis Medi a hoffem ddathlu’r achlysur gyda rhanddeiliaid allweddol, sefydliadau ieuenctid ac ysgolion a cholegau yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn cynnwys areithiau gan Kirsty Williams AC, Agored Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes hyfforddiant ac addysg. Bydd gweithwyr a phobl ifanc sydd wedi’u hachredu drwy’r gwobrau yn trafod y buddion cysylltiedig yn bersonol neu drwy fideo yn ystod y digwyddiad. Byddwn hefyd yn lansio ein gwefan newydd ar gyfer y Gwobrau Cyflawniad Pobl Ifanc a’r llyfrynnau ac adnoddau ar gyfer y gwobrau ar eu newydd gwedd, cyn cinio ysgafn, amser i rwydweithio a chyfle i siarad ag Agored Cymru, sef y corff gwobrwyo, a staff Ieuenctid Cymru, a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr