Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Y digwyddad i gloi Gŵyl Gorau LHDT y DU ac Iwerddon, Law yn Llaw
Dyddiad: Dydd Sul 18 Awst 2019
Amser: 13.00 - 15.00
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: Law yn Llaw yw Gŵyl Gorau LDHT ddwyflynyddol y DU ac Iwerddon. Cynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd eleni, sef y tro cyntaf i ddigwyddiad o’r fath gael ei gynnal yng Nghymru. Bydd dros 900 o gantorion o 33 o gorau yn heidio i’r brifddinas am benwythnos o berfformiadau a rhwydweithio fel rhan o’r digwyddiad. Eleni, bydd mwy o ffocws ar ymgysylltu â’r gymuned gan y bydd y perfformiadau yn Neuadd Dewi Sant a’r Cornerstone ddydd Sadwrn 17 Awst yn agored i’r cyhoedd, a bydd perfformiadau cyhoedus ym Mae Caerdydd ar y dydd Sul.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr