Digwyddiad

DIGWYDDIAD: 'Troed yn y Drws' – Dathlu dwy flynedd: Effeithio ar Ddiwydiant a Chreu Newid

Dyddiad: Dydd Iau 18 Gorffennaf 2019

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae Troed yn y Drws yn rhaglen hyfforddi Ffilm a Theledu arloesol a gynlluniwyd ac a gyflwynir gan Ffilm Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r rhaglen wedi lleoli dros 70 o hyfforddeion ym maes Ffilm a Theledu ledled Cymru, gan ddatblygu eu sgiliau crefft trosglwyddadwy, a magu hyder a chefnogi twf o fewn y sector, gan gynnig datblygiad a chynnydd hirdymor i’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae'r Rhaglen wedi'i hanelu at y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ledled Cymru. Mae wedi cynnwys gwaith partneriaeth traws-sector sylweddol gyda chymunedau ac mae ei llwyddiant yn seiliedig ar ddealltwriaeth ddofn o'r rhwystrau a wynebir gan y rheini nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, o bosibl, ac sy’n awyddus i ymuno â'r diwydiant hwn sy’n tyfu yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan hyfforddeion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen, a byddwn yn clywed gan bartneriaid yn y maes cynhyrchu sydd wedi elwa o ymgysylltu â Troed yn y Drws.

Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr