Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Cerdyn Post o Gymru

Dyddiad: Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf 2019 i ddydd Iau 8 Awst 2019

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Cerdyn Post o Gymru yn rhan o ddathliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2019 i nodi 20 mlynedd o ddatganoli. Mae'r artist Steve Knapik MBE wedi gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i greu gweithiau celf sy'n dathlu amrywiaeth ein tirwedd ledled y wlad. Mae’r arddangosfa yn ddetholiad o'r 30,000 o dirluniau A4 a ysbrydolwyd gan Gymru wedi'u harddangos fel gosodiad celf ar y cyd i amlygu pwysigrwydd y celfyddydau i Gymreictod a'u rôl wrth ddod â phobl at ei gilydd. Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan yn y dathliad drwy greu eich cerdyn post unigryw eich hun o Gymru i'w anfon at rywun yng Nghymru neu du hwnt.

Agored i'r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr