Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cynhadledd Sipsi, Roma a Theithwyr LGBTIQ

Dyddiad: Dydd Iau 4 Gorffennaf 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae’r Romani Cultural and Arts Company (RCAC) yn falch o’ch gwahodd i’r Gynhadledd Sipsi, Roma a Theithwyr (GRT) LGBTIQ. Bydd y digwyddiad yn cynnwys Dr Daniel Baker (Lloegr) a Christine Lee (Cymru) a gwesteion yn cynnwys Robert Rustem (Cyngor Ewrop), William Bila (Ffrainc/UDA) a Vera Kurtic (Serbia). Bydd yr amrywiaeth o siaradwyr gyda’u meysydd gwahanol o arbenigedd yn agor trafodaeth ynghylch materion LGTBIQ o ran sut maent yn ymwneud ag unigolion a chymunedau GRT. Mae’r digwyddiad hwn yn un o nifer mae’r RCAC yn ei gydgysylltu ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ymlaen at roi llwyfan a llais i ‘leiafrif o fewn lleiafrif’. Mae’r gynhadledd GRT LGBTIQ yn gyfle unigryw i gymryd rhan mewn trafodaeth gyda phanel ryngwladol o siaradwyr ysbrydoledig. Dywed Dr Daniel Baker, artist, curadur ac academydd Romani, “Mae trafodaethau am arwyddocâd hunaniaethau sy’n croesi ar draws ei gilydd yn bwysicach nag erioed. Drwy adnabod elfennau cyffredin ar draws gwahaniaeth drwy rannu profiad a gwybodaeth, gallwn symud yn agosach at gymdeithas fwy ofalgar.” Dywed Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Romani Culural & Arts Company, “Fedr cymdeithas agored, oddefgar ddim dewis a dethol pa grwpiau sy’n teilyngu goddefgarwch a dealltwriaeth. Mae pob unigolyn sy’n byw ar ein planed brydferth yn haeddu cael eu mesur yn ôl eu geiriau a’u gweithredoedd eu hunain; nid ar sail eu hil, cenedl, crefydd, rhywedd neu gefndir teulu. Safwn gyda’n gilydd ac ymfalchïo yn y gwahaniaeth anhygoel y mae dynoliaeth yn ei gwmpasu.”

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr