Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dathlu Bywyd ac Etifeddiaeth yr Athro Michael Sullivan - 20 mlynedd o Ddatganoli

Dyddiad: Dydd Iau 27 Mehefin 2019

Amser: 11.00 - 15.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu gwaith Mike Sullivan ac yn nodi ymrwymiad o'r newydd i gyflawni'r weledigaeth a rannodd â chyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, sef bod angen ymchwil da ar bolisi, a bod angen i ymchwil ymgysylltu â pholisi. Bu Mike yn gweithio gyda Rhodri Morgan fel cynghorydd arbennig. Yn ystod blwyddyn olaf bywyd Mike, cofnododd nifer o ddeialogau a gafodd gyda llawer o'r brif bobl a oedd yn llunio polisi cyhoeddus ac yn dylanwadu arno yn ystod y ddau ddegawd cyntaf o ddatganoli yng Nghymru, gan adlewyrchu'n arbennig ar etifeddiaeth wleidyddol Rhodri Morgan a natur y ddemocratiaeth gymdeithasol Gymreig a ddaeth i'r amlwg. Yn y digwyddiad hwn, bydd cyfle i rannu'r mewnwelediadau a gafwyd wrth gynnal y deialogau hyn, a chyfle i drafod materion gyda rhai o'r Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad a oedd yn gysylltiedig â'r fenter. Bydd cyfraniadau eraill yn cael eu gwneud gan gydweithwyr a weithiodd gyda Mike ar fentrau nodedig ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys sefydlu partneriaethau ymchwil rhyngwladol a pherthynas ryfeddol rhwng Prifysgol Abertawe a Hillary Rodham Clinton, cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau. Bydd y deialogau hyn yn cael eu rhannu ar ffurf casgliad wedi'i olygu, a gaiff ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Bydd cyfranwyr i'r cyhoeddiad hwn ymhlith y rai a fydd yn cynnal trafodaethau yn y digwyddiad hwn.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr