Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lansiad: Cynllun Gweithredu BECTU ar gyfer amrywiaeth yn y theatr yng Nghymru
Dyddiad: Dydd Mawrth 18 Mehefin 2019
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: Nod y digwyddiad yw lansio Cynllun Gweithredu BECTU ar gyfer amrywiaeth yn y theatr yng Nghymru. Datblygwyd y cynllun gan Bwyllgor Aelodau Du yr undeb a chynrychiolwyr undebau sy’n gweithio mewn theatrau. Nod y cynllun yw gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr ar draws y sector i frwydro yn erbyn diffyg cynrychiolaeth grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Mae dros 100 o theatrau ledled y Deyrnas Unedig wedi datgan eu cefnogaeth eisoes.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr