Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Digwyddiad lansio Champions of Wales Plan UK
Dyddiad: Dydd Mercher 12 Mehefin 2019
Amser: 12.00 - 14.30
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Ymunwch â Plan International UK wrth i ni lansio CHAMPIONS OF WALES, mudiad newydd hawliau merched i gyflawni cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. O Cartagena i Gaerdydd a San Salvador i Abertawe , mae Plan International UK yn dod â’i raglen arloesi fyd-eang dros gydraddoldeb rhywiol i Gymru. Drwy raglen uchelgeisiol o weithdai, mapio digidol ac ymgyrchoedd dan arweiniad pobl ifanc, rydym yn gweithio gyda chyrff partner ledled Cymru i newid agweddau, herio ystrydebau a chreu cymdeithas fwy cyfartal i ferched ar hyd a lled y wlad. Ymunwch â’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland ac arbenigwyr ar hawliau merched o Plan International UK i ddysgu mwy am y rhaglen gyffrous hon a’n gwaith byd-eang ni ym maes cydraddoldeb rhywiol.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr