Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Derbyniad i Godi Ymwybyddiaeth

Dyddiad: Dydd Iau 6 Mehefin 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae diffyg fitamin B yn effeithio ar tua 350,000 o bobl yng Nghymru. Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod problem fawr gyda’r prawf a ddefnyddir i asesu statws B12 cleifion. Anemia dinistriol yw prif achos diffyg B12, ond ers i Brawf Schilling gael ei ddiddymu’n raddol 30 mlynedd yn ôl, nid oes prawf manwl i bennu a oes ar glaf anemia dinistriol. O’r herwydd, mae camddiagnosis yn gyffredin a bu i 33 o aelodau’r Gymdeithas Anemia Dinistriol aros rhwng dwy a phum mlynedd ar gyfer diagnosis cywir. Mae ymgynghoriadau ofer neu ailadroddus â meddygon teulu’n costio o leiaf £8 miliwn y flwyddyn yn Lloegr. Mae NICE wedi cytuno bod angen ymchwilio i’r broblem hon, ond rydym am i gynrychiolwyr etholedig fod yn ymwybodol o’r mater i sicrhau bod NICE yn ystyried y mater yn flaenoriaeth. Heb ddiagnosis na thriniaeth, mae diffyg fitamin B12 yn arwain at niwed difrifol a di-droi’n-ôl i’r nerfau.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr