Digwyddiad

DIGWYDDIAD: LeadHERship

Dyddiad: Dydd Mawrth 26 Mawrth 2019

Amser: 09.00 - 17.00

Lleoliad: Y Senedd, Tŷ Hywel a Y Pierhead

Disgrifiad: Mae LeadHerShip yn ddigwyddiad undydd sy’n rhoi cyfle i fenywod ifanc ledled Cymru gysgodi Aelod Cynulliad yn y gwaith a dysgu sut y gwneir penderfyniadau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn rhoi golwg unigryw i fenywod rhwng 16 a 22 mlwydd oed ar waith Aelod Cynulliad, a phrofiad uniongyrchol gyda modelau rôl sy’n ysbrydoli. Er bod menywod yn cael eu cynrychioli’n gymharol dda yn y Cynulliad, dim ond 28 y cant o Aelodau Seneddol a Chynghorwyr lleol sy’n fenywod. Nod y diwrnod hwn yw ysbrydoli rhagor o fenywod ifanc i ystyried gyrfa wleidyddol yn y dyfodol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr