Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Diffusion 2019: Sain + Llun

Dyddiad: Dydd Llun 1 Ebrill 2019 i ddydd Mawrth 30 Ebrill 2019

Lleoliad: Y Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o groesawu Diffusion, sef gwŷl ddiwylliannol bwysig yng Nghymru. Mae’r Senedd yn lwyfan i hybu rhagoriaeth Gymreig ac fel rhan o’r wŷl dangosir gwaith gan Sebastián Bruno, Timothy Gwyn John, Richard Jones and Ayesha Khan. Mae Sebastián Bruno yn cyflwyno Caneuon o ddrama gerdd “Y Teulu”, gan George a Martha Lowman. Profiad trwythol sy’n cyfuno gosodwaith, ffotograffiaeth a thechnoleg rithwir. Wrth wraidd Intimate Distance gan Timothy Gwyn John mae syniadau am sut yr ydym yn cysylltu a chyfathrebu â’n gilydd. Mae arddangosfa Richard Jones, The Coal Face, yn cyflwyno darlun o ddiwydiant glo Cymru trwy gyfrwng wynebau’r gweithlu. Mae Standing Up gan Ayesha Khan yn archwilio hunaniaeth gwragedd Mwslimaidd sy’n gorfod amddiffyn eu hunain tra byddant hefyd yn addysgu pobl ynglŷn ag Islamoffobia. Bydd Diffusion 2019 yn fis o arddangosfeydd, ymyriadau, sgriniadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn mannau a gofodau ffisegol a rhithwyr. Yn ogystal â’r cynnwrf o gyfranogi o’r ŵyl yn uniongyrchol a bod yn rhan o ddigwyddiad â chyrhaeddiad rhyngwladol, mae hefyd gyhoeddiadau print ac ar-lein, gwefannau, cynnwys ar gyfer ffonau symudol a thrafodaethau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Thema Diffusion 2019 yw Sain+Llun. Mae’r ŵyl yn ymhél â’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens a sut, yn y diwylliant gweledol sydd ohoni, y mae sain yn dylanwadu ar ddelweddau o ran eu trosglwyddo, eu cyflwyno a’u darllen, ac yn yr un modd cerddoriaeth fel profiad gweledol yn ogystal â phrofiad clywedol.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr