Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lloches yn y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher 3 Ebrill 2019

Amser: 09.00 - 16.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Lloches yn y Senedd 2019 yn rhoi cyfle inni ddathlu'r cyfraniad y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn ei wneud o fewn cymunedau Cymreig, cyfle i ddathlu'r croeso a gynigir i geiswyr lloches gan gymunedau Cymru ac i leisiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches gael eu clywed wrth galon pŵer Cymru. Bydd y digwyddiad yn archwilio pa mor bell yr ydym wedi dod ar ein taith tuag at ddod yn Genedl o Loches ac yn rhoi cyfle i Aelodau'r Cynulliad glywed yn uniongyrchol gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr