Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Arloesi ar gyfer Cymunedau Gweithgar gan Leonard Cheshire

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Mawrth 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: y Pierhead

Disgrifiad: Beth os oes ffordd well y gallai’r rhai sy’n derbyn gofal cymdeithasol rannu eu taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal? Ffordd y gallent fwynhau gweithgareddau fel grŵp yn hytrach nag ar ben eu hunain, os ydynt yn dewis gwneud? Beth os oedd ffordd o leihau’r gost oriau gofal? Model newydd arloesol ar gyfer gwariant y sector cymdeithasol? Dyna beth yw rhaglen ‘Arloesi ar gyfer Cymunedau Gweithgar’ Leonard Cheshire. Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus yn Ynys Môn, mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ledled Cymru. I ganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â’n Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Rhian Stangroom-Teel (Rhian.Stangroom-Teel@leonardcheshire.org) i gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad lansio hwn.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr