Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Undebau Llafur dros Ynni Niwclear Diogel: Digwyddiad Cymru 2018

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Mawrth 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Ystafelloedd Cynadledda C a D, Tŷ Hywel

Disgrifiad: Mae'r diwydiant niwclear sifil yng Nghymru wedi darparu llawer o swyddi â chyflog da mewn amodau gwaith diogel ers trigain mlynedd a mwy. Mae llawer o'r rhain wedi bod yn y Gogledd lle mae'r ddwy orsaf bŵer niwclear wedi'u lleoli. Mae yna lawer mwy o swyddi ledled Cymru yn y gadwyn gyflenwi. Gyda diwedd gwaith cynhyrchu trydan yn orsaf bŵer Wylfa a datgomisiynu’n dod i ben yn Nhrawsfynydd, beth sydd gan y diwydiant niwclear i'w gynnig i economi Cymru yn y dyfodol? Mae Undebwyr Llafur dros Ynni Niwclear Diogel (TUSNE) a'n noddwr Vaughan Gething AC yn falch o'ch gwahodd i wrando ar gynrychiolwyr gweithwyr a’r diwydiant a thrafod eich barn gyda nhw.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr