Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Mamau yn Affrica

Dyddiad: Dydd Mercher 6 Mawrth 2019 i ddydd Iau 28 Mawrth 2019

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Disgrifiad: Mamau yn Affrica. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn 2015 bu farw oddeutu 830 o fenywod bob dydd o achosion y gallasid eu hatal yn gysylltiedig â beichiogrwydd a geni plentyn. Ar gyfartaledd, mae'n golygu bod menyw yn marw bob dwy funud. Mae 99 y cant o'r marwolaethau hyn yn digwydd mewn ardaloedd gwledig tlawd lle mae prinder adnoddau a diffyg addysg. Er 2012, mae Mamau yn Affrica, elusen fach o Gymru, wedi bod yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd lleol proffesiynol i ddarparu hyfforddiant ac addysg yn Rhanbarth Chongwe yn Sambia. Yn y chwe blynedd mae'r elusen wedi bod yn gweithio yn Chongwe ac yn Shiyala, un o'r pentrefi gwledig yno, rwyf wedi bod yn cofnodi eu gwaith yn ffotograffig. Mae'r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar y menywod a'r merched hynny y cefais y fraint o'u cyfarfod, y rhai a adawodd imi eu ffotograffio a rhannu'r cip lleiaf ar eu bywydau. Dyma fenywod sydd wedi goroesi geni plentyn, sawl gwaith yn achos llawer ohonynt, a dyma'r merched y mae'r elusen yn gweithio i wella eu dyfodol. Ni allaf ond gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn llwyddo i ddangos mymryn o'u cryfder a'u harddwch.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr