Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Arddangosfa Esiamplau Comisiwn Bevan

Dyddiad: Dydd Iau 24 Ionawr 2019

Amser: 09.00 - 16.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae Comisiwn Bevan, prif felin drafod Cymru ar gyfer iechyd a gofal, yn troi meddwl yn weithredu drwy gefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal sydd ar reng flaen y GIG i brofi eu syniadau arbenigol eu hunain. Bydd Comisiwn Bevan yn dod â’r gweithwyr proffesiynol hyn o’r GIG (a elwir yn Esiamplau Bevan) yn uniongyrchol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddangos eu datblygiadau newydd, o ailgylchu gwastraff plastig mewn ffordd sy’n creu elw, neu alluogi cleifion canser i gael triniaeth drwy rith-wirionedd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr