Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Pecyn Cymorth Llechen Lân Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Bydd digwyddiad Llechen Lân Cymru yn dod â phartneriaid o'r sector cyfiawnder troseddol, y diwydiant adeiladu a'r trydydd sector ar draws Cymru ynghyd. I ddathlu llwyddiant prosiect BAM Nuttall a ariennir gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) sy’n cefnogi pobl sydd â chollfarnau i ddechrau ar hyfforddiant ym maes adeiladu a sicrhau cyflogaeth yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn cynnwys lansio Pecyn Cymorth Llechen Lân Cymru a luniwyd fel rhan o'r prosiect i alluogi'r diwydiant adeiladu i gefnogi pobl sydd â chollfarnau pan ddaw’r prosiect ffurfiol i ben.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr