Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dathlu Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Hydref 2018

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Bydd Prifysgol Aberystwyth, yng nghwmni cynrychiolwyr o Gynulliad Cymru a chymuned Caerdydd, yn dathlu’i gorffennol, ei phresennol, a’i dyfodol drwy ddod i Gaerdydd i ddathlu Diwrnod ei Sylfaenwyr, a gynhelir yn adeilad eiconig y Pierhead. Mae Diwrnod y Sylfaenwyr yn ddathliad blynyddol i nodi sut y mae’r Brifysgol wedi bod yn gwneud hanes ers yr 1850au, pan godwyd ddigon o arian trwy gyfraniadau cyhoeddus a phreifat i sefydlu coleg o statws prifysgol yng Nghymru, a hynny yn sgil gwaith grŵp bach o wladgarwyr o dan arweinyddiaeth Hugh Owen, un o Gymry Llundain.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr