Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Uwch Gyfrifiadureg Cymru

Dyddiad: Dydd Iau 11 Hydref 2018

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Lansio Uwch Gyfrifiadureg Cymru. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, bydd ‘Uwch Gyfrifiadureg Cymru’ yn galluogi’r wlad i gystadlu’n fyd-eang o ran gwaith ymchwil ac arloesi sy’n gofyn am y cyfleusterau cyfrifiadurol diweddaraf i efelychu a datrys problemau gwyddonol cymhleth. Bydd Uwch Gyfrifiadureg Cymru yn darparu mynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol pwerus i brosiectau gwyddoniaeth ac arloesi amlwg ledled Cymru, gyda’r nod o ddenu rhagor o gyllid ymchwil, cynyddu partneriaethau gwyddonol, creu swyddi ymchwil medrus a chydweithredu â phartneriaid diwydiannol a phartneriaid eraill.

Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig, ond bydd y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr