Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bolisi Echdynnu Petroliwm

Dyddiad: Dydd Iau 20 Medi 2018

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Ystafell Briffio’r Cyfryngau, y Senedd

Disgrifiad: Yng nghyd-destun ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bolisi Echdynnu Petroliwm, mae’r Academi yn cynnal digwyddiad yn Ystafell Briffio’r Cyfryngau ar 20 Medi. Bydd ein cydweithiwr, yr Athro Andrew Barron o’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yn y Coleg Peirianneg yn cyflwyno’r achos o blaid dull gweithredu llai cyfarwyddol wrth echdynnu nag a gynigir gan y ddogfen ymgynghori. Mae ef wedi cynnal ymchwil helaeth i ddulliau echdynnu nwy siâl nad ydynt yn cynnwys defnyddio dŵr, ac mae ganddo dystiolaeth newydd o ran y posibilrwydd o gyfuno elfennau o echdynnu nwy siâl â ‘dal carbon’. Mae’r Athro Barron wedi rhoi cyflwyniad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o’r blaen, ond mae’r gwaith ymchwil wedi datblygu ers hynny, yn arbennig o ran potensial ‘dal carbon’. Wrth reswm, mae hwn yn bwnc dadleuol iawn, ac mae’n amlwg yn bwysig y clywir ystod eang o dystiolaeth, a diben y digwyddiad yw sicrhau y gellir cyflwyno gwaith ymchwil i lywio’r ddadl.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr