Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Cystadleuaeth ffotograffiaeth cyflwr y ffyrdd yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Llun 3 Medi 2018 i ddydd Gwener 14 Medi 2018

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Cynhaliodd un o bwyllgorau’r Cynulliad, Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ymchwiliad i gyflwr y ffyrdd yng Nghymru a'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Hefyd, edrychodd y Pwyllgor ar hyfywedd prosiectau adeiladu o bwys a'u gwerth am arian, gan gynnwys ffordd liniaru’r M4 o amgylch Casnewydd, rhaglen ddeuoli'r A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr, y ffordd osgoi rhwng Caernarfon a’r Bontnewydd, a ffordd osgoi’r Drenewydd. Mae costau'r ffordd osgoi eisoes yn uwch nag £1 biliwn a datgelodd cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru y disgwylir i'r gwaith ar yr A465 hefyd gostio mwy na'r gyllideb. “Meddyliwch am y miliynau o deithiau a wneir bob blwyddyn ar gyfer busnes, hamdden, anghenion iechyd, ac i fynd i'r ysgol ac ati. Mae'n hanfodol bod gan Gymru rwydwaith ffyrdd a gynhelir yn dda i gadw'r wlad yn symud” dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor lansio cystadleuaeth lluniau ar ffyrdd Cymru a gofynnodd i bobl anfon lluniau fel rhan o'i ymchwiliad i gyflwr y ffyrdd yng Nghymru. Lansiwyd y gystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth o ymchwiliad y Pwyllgor. Cyhoeddir ei ganfyddiadau yn yr hydref. Mae’r cynigion a gyrhaeddodd y rhestr fer bellach yn rhan o’r arddangosfa hon. Tynnwyd y llun buddugol, a fydd yn ymddangos ar glawr adroddiad y Pwyllgor, gan Antony Maybury o Wrecsam ac mae'n dangos lori wrth iddi fynd heibio i dwll mawr yn yr A525 ger Bronington.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr