Digwyddiad

Eisteddfod Genedlaethol

Dyddiad: Dydd Gwener 3 Awst 2018 i ddydd Sadwrn 11 Awst 2018

Lleoliad: Senedd a Pierhead

Disgrifiad: Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o chwarae rhan hanfodol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan y cynhelir amrywiaeth o arddangosfeydd, trafodaethau a digwyddiadau sy'n ymdrin â bywyd Cymru ar yr ystâd. Yn hon, yr "Eisteddfod heb ffens", rhwng 3 a 11 o Awst, bydd y Senedd yn gartref i'r Lle Celf a gweithgaredd y cymdeithasau, ac adeilad hanesyddol y Pierhead fydd cartref Shw'mae Caerdydd - canolfan dysgu Cymraeg ar y Maes a'r lle ar gyfer gwybodaeth am yr iaith Gymraeg. Bydd y Cynulliad hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau fel rhan o raglen y Cymdeithasau yn ystod yr wythnos.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr