Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dangos Ffilm: British Winters

Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Gorffennaf 2018

Amser: 16.30 - 19.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: ‘British Winters’ yw ffilm hir gyntaf yr elusen TAPE Community Music and Film o Hen Golwyn. Mae’r ffilm, sy’n 105 o funudau ac wedi ei haddasu o’r llyfr sy’n dwyn yr un teitl, wedi teithio sinemâu a chlybiau ffilm cymunedol ledled y DU ar ôl cael dosbarthiad 15 gan Fwrdd Dosbarthiadau Ffilm Prydain. Cafodd ei saethu’n gyfan gwbl ar arfordir gogledd Cymru dros gyfnod o fis, ac mae’n adrodd hanes Noel Winters, sy’n 30 oed, mewn swydd ddi-ddim ac angen newid cyfeiriad. Yr hyn sy’n bwysig am y ffilm yw ei bod wedi galluogi pobl o wahanol rannau o’r gymuned i gael profiad o weithio ar bob agwedd ar ffilm fawr. Mae’r amrywiaeth a’r cynhwysiant a gyflwynir drwy gyfrwng y prosiect British Winters yn eithriadol a dylid ei ddefnyddio fel enghraifft o sut y gellir gwneud pethau’n wahanol.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr