Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Pweru Cymru

Dyddiad: Dydd Iau 14 Mehefin 2018

Amser: 08.30 - 13.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae Centrica yn eich gwahodd i sesiynau gwybodaeth i ddysgu rhagor am y miliynau o bunnoedd y gellir eu harbed yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat drwy ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy’n gweddnewid y ffordd yr ydym yn defnyddio ynni. Nid yw’r datblygiadau newydd hyn o ran ynni ond yn golygu ffyrdd mwy effeithlon o ddefnyddio ynni – byddant yn golygu cynhyrchu rhagor o drydan yn agosach at y mannau lle bydd y trydan hwnnw’n cael ei ddefnyddio, drwy dechnolegau fel solar a gwres a phŵer cyfunedig, a harneisio pŵer data a’r byd digidol i’r eithaf i ganiatáu i’r cwsmer gymryd rheolaeth. Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu y gallai’r datblygiadau hyn arbed miliynau o bunnoedd i sectorau allweddol, yn ogystal â helpu i Gymru gyrraedd targedau o ran datgarboneiddio.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr