Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio prosiect Drysau Agored/Open Doors

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Mehefin 2018

Amser: 12.00 - 13.15

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae’r prosiect Drysau Agored/Open Doors yn gynllun dwy flynedd sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr ac sy’n cael ei gynnal ar y cyd gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a Tai Pawb. Nod y prosiect yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i denantiaid o grwpiau lleiafrifol yn y sector rhentu preifat, landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo i atal a lleihau camwahaniaethu a cham-drin yn y sector. Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o hawliau allweddol, cyfrifoldebau a datrysiadau ar gyfer tenantiaid preifat o grwpiau amrywiol, fel mudwyr, tenantiaid lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a thenantiaid anabl, sy’n fwy tebygol o wynebu problemau penodol o ran eu tenantiaeth. Ar yr un pryd, gyda chymorth gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, bydd Drysau Agored/Open Doors yn gweithio gyda landlordiaid preifat ac asiantiaid gosod eiddo i’w helpu i ymateb i faterion ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr