Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Diwrnod yn y Bae Gogledd Ddwyrain Cymru
Dyddiad: Dydd Llun 11 Mehefin 2018
Amser: 12.30 - 13.30
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i ddangos uchafbwyntiau’r hyn sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnig drwy alluogi sefydliadau i rannu gwybodaeth a dangos eu gwaith. Cynhelir trafodaeth panel dros ginio, yn ogystal â sesiwn hawl i holi ar y thema ‘Tuag at economi newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru’. Bydd rhestr lawn o siaradwyr yn cael ei chyhoeddi maes o law, ond bydd y panel yn cynnwys Hannah Blythyn AC fel Cadeirydd. Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, fydd y siaradwr gwadd.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr